Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal ar gyfer eich defnydd personol ac i edrych arni. Mae mynd i mewn i'r wefan hon a'i defnyddio'n gyfystyr â'ch bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn sy'n dod i rym o ddyddiad lansio'r wefan hon. Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a warchodir gan y Goron yn cynnwys unrhyw ddeunydd ar y wefan hon y nodir ei fod yn hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael awdurdod i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan y deiliad hawlfraint perthnasol o'r Swyddfa Gartref.
Deddf Gwarchod Data 1998
Yn ôl y ddeddf hon rydym yn eich hysbysu y gallai eich atborth trwy e-bost gynnwys gwybodaeth amdanoch (gelwir hyn yn 'ddata personol' yn y Ddeddf) a'n bod yn 'rheolwr data' i bwrpasau'r Ddeddf.
Byddwn ni, y Swyddfa Gartref, yn prosesu'r data am atborth ar eich barn am y wefan hon yn unig. Mae'n bosibl y byddwn yn datgelu'r data hwn i unrhyw berson neu sefydliad ar gyfer y pwrpasau y cafodd ei gasglu ar eu cyfer neu ble bo'r Ddeddf yn caniatáu datgelu.
Fel gwrthrych data, mae gennych hawl i ofyn am gopi o'r data ac i ofyn am gywiro unrhyw anghywirdebau.
Gwadiad
Mae'r holl gysylltiadau ar y wefan wedi eu dewis am eu bod yn berthnasol i'r wefan hon.
Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefan gysylltiedig. Nid yw cyswllt yn awgrymu ein bod yn cefnogi'r wefan honno ac yn yr un modd nid yw diffyg cyswllt yn awgrymu diffyg cefnogaeth. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy'r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros dudalennau cysylltiedig.
|