|
|
Mae'r arolygwyr yn helpu'r Prif Gomisiynydd i oruchwylio gweithrediadau ar-wylio gan yr heddlu ac awdurdodau cyhoeddus eraill.
Bydd arolygiadau ar ffurf cyfweliadau gydag uwch-reolwyr a staff gweithredu ar bob lefel, asesu dogfennau'n ymwneud â strategaethau, polisïau a gweithdrefnau a dadansoddi gweithrediadau unigol yn fanwl.
Asesu polisïau a gweithdrefnau corfforaethol ar gyfer ar-wylio cudd
- Strategaethau, polisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig
- Polisiau a threfniadau hyfforddi
- Trefniadau monitro
- Rheoli ansawdd a mesur ac archwilio safonau
- Mesuriadau perfformiad
- Adolygu effeithiolrwydd gweithrediadau ar-wylio
- Dulliau ystyried opsiynau amgen gan gynnwys, er enghraifft, lefel y cyfathrebu gyda lluoedd cyfagos a sefydliadau eraill.
Arolygu gweithrediadau unigol yn fanwl
- Glynu wrth ddeddfwriaeth yn y broses o wneud ceisiadau ac awdurdodi mewn perthynas ag ar-wylio yn ôl cyfarwyddyd, defnyddio ffynonellau cudd-ymchwil dynol, ymyrraeth ag eiddo, ar-wylio ymwthiol yn ogystal â defnyddio rhybuddion seiffro ac allweddau (pan ddeuir â'r ddeddfwriaeth i rym).
- Camau diogelu
- Lefel gwybodaeth swyddogion unigol
- Trefniadau ar gyfer storio, adolygu a distrywio deunydd a geir trwy ar-wylio.
|
|