Comisiynwyr Ar-wylio Skip site navigation

 | 

 | 

Sut Rydym yn Gweithio

 | 

 | 

 | 

 | 

English | Cymraeg

 
Current page:


Comisiynwyr Ar-wylio

 
Sut Rydym yn Gweithio - Comisiynwyr Ar-wylio

Mae cyfrifoldebau gan Gomisiynwyr Ar-wylio o dan Ran III o Ddeddf Heddlu 1997 a Rhannau II a III o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol 2000.

Mae Adran 91 o Ddeddf 1997 yn darparu i'r Prif Weinidog benodi nifer o Gomisiynwyr i gyflawni rhai swyddogaethau statudol o dan Ran III o Ddeddf 1997. Estynnwyd y rhain yn 2000 i gynnwys goruchwylio Rhannau II a III o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol 2000 a Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol (Yr Alban) 2000. Mae a wnelo'r swyddogaethau hyn â gweithrediadau ar-wylio gan yr heddlu a swyddogion Tollau ac aelodau o'r Gwasanaeth Cudd-ymchwil Troseddol Cenedlaethol a'r Heddlu Troseddol Cenedlaethol.

Mae Comisiynwyr yn gyfrifol am:

  • archwilio pob hysbysiad o awdurdodiad, a phob awdurdodiad sy'n cael ei adnewyddu neu ei ddiddymu
  • rhoi cymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer awdurdodiadau ac adnewyddiadau mewn rhai achosion penodol
  • cynorthwyo'r Prif Gomisiynydd Ar-wylio (CSC) i oruchwylio hysbysu mynediad i allweddau seiffro o dan adran 51 o RIPA
  • cynorthwyo'r CSC yn ei ddyletswydd i gadw golwg ar y defnydd o gudd-wylio yn ôl cyfarwyddyd a ffynonellau cudd-ymchwil dynol gan asiantaethau gorfodi'r gyfraith.

Ymyrryd ag eiddo

  • Hysbysiadau
    Mae'n ofynnol i Gomisiynydd, cyn gynted ag y bo'n ymarferol resymol, archwilio pob hysbysiad, adnewyddiad a diddymiad awdurdodiad a roddir yn ysgrifenedig gan swyddogion awdurdodi. Mae angen i Gomisiynydd fod yn fodlon, fod achos rhesymol dros gredu fod y gweithredu'n bodloni'r meini prawf a amlinellir yn adran 93(2) o Ddeddf 1997, ar yr adeg y cafodd yr awdurdodiad ei ganiatáu.

    Mewn achosion lle nad yw Comisiynydd yn fodlon, bydd ganddo hawl i ddileu awdurdodiad neu adnewyddiad. Gall hefyd orchymyn distrywio cofnodion (ac eithrio'r rhai hynny y bydd eu hangen yn ystod achosion sifil neu droseddol sydd ar y gweill). Bydd y Comisiynydd yn hysbysu'r Swyddog Awdurdodi a'r CSC o'r penderfyniad mewn llythyr. Bydd hawl gan swyddogion Awdurdodi i apelio i'r CSC yn erbyn penderfyniadau o'r fath.

    Mewn achosion priodol, gall Comisiynydd orchymyn fod yr awdurdodiad yn aros mewn grym am gyfnod penodol i ganiatáu adfer unrhyw beth a adawyd yn yr adeilad wrth ganlyn yr awdurdodiad.

  • · Cymeradwyo ymlaen llaw
    Ni roddir awdurdodiadau neu adnewyddiadau mewn grym mewn achosion arbennig o sensitif, fel yr amlinellir yn adran 97 Deddf 1997, heblaw am achosion brys, oni bai eu bod wedi eu cymeradwyo gan Gomisiynydd.

    Yn yr achosion hyn, rhaid i Gomisiynydd benderfynu, cyn gynted ag y bo'n ymarferol resymol, un ai i gymeradwyo neu wrthod awdurdodiad gan roi rhybudd ysgrifenedig o'r bwriad hwn i'r swyddog awdurdodi. Ni ddaw i rym hyd nes yr hysbysir y swyddog awdurdodi fod y Comisiynydd yn rhoi ei gymeradwyaeth. Pan wrthodir cymeradwyo, rhaid i Gomisiynydd lunio adroddiad yn nodi ei ganfyddiadau i'r swyddog awdurdodi.

    Mewn achosion brys, gall awdurdodiad ddod i rym yn syth ond rhaid hysbysu Comisiynydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ar ôl hynny. Yn ogystal â phenderfynu a yw'r penderfyniad i awdurdodi ymyrraeth ag eiddo yn rhesymol, bydd disgwyl i Gomisiynydd benderfynu hefyd a yw'r penderfyniad i drin yr achos fel achos brys yn un rhesymol, ac felly i symud ymlaen heb ganiatâd ymlaen llaw.

    Pan fo Comisiyndd yn anfodlon, bydd hawl ganddo i ddileu neu ddiddymu yr awdurdodiad neu'r adnewyddiad. Mewn achosion brys pan fo'r awdurdodiad wedi dod i rym heb gymeradwyaeth ymlaen llaw, bydd ganddo hefyd hawl i ddileu neu ddiddymu awdurdodiad neu adnewyddiad os nad yw'n fodlon fod y dull hwn o weithredu yn rhesymol.

Ar-wylio ymwthiol

Bydd yr un trefniadau'n berthnasol i awdurdodiadau ar-wylio ymwthiol ag i ymyrraeth ag eiddo.

Ymweliadau

Wedi i Arolygwyr arolygu'r ar-wylio cudd a wneir gan asiantaethau gorfodi'r gyfraith, bydd Comisiynwyr yn ymweld i drafod canfyddiadau ac argymhellion yr Arolygwyr gyda'r Prif Swyddogion.

Data electronig wedi ei warchod drwy seiffro

Pan fo Rhan III o RIPA mewn grym, bydd gofyn i Gomisiynwyr gynorthwyo'r CSC i oruchwylio:

  • hysbysiadau awdurdodiadau'r heddlu a thollau, a roddir o dan adran 51 o RIPA, ble mae angen datgelu allwedd
  • arfer a defnyddio eu grym i gyflwyno rhybuddion datgelu adran 49 (cyn belled nad yw'r rhain yn gyfrifoldeb y Comisiynwyr Gwasanaethau Clustfeinio a Chudd-ymchwil), a sicrhau fod y trefniadau ar gyfer diogelu allweddi a nodir yn adran 55 o RIPA yn ddigonol.
 

  Map gwefan | Cymorth technegol | Telerau a amodau

 

© 2002 Comisiynwyr Ar-wylio