Comisiynwyr Ar-wylio Skip site navigation

 | 

 | 

Sut Rydym yn Gweithio

 | 

 | 

 | 

  

English | Cymraeg

 
Current page:


Prif Gomisiynydd Ar-wylio

 
Sut Rydym yn Gweithio - Prif Gomisiynydd Ar-wylio

Mae Adran 91 o Ddeddf Heddlu 1997 ('Deddf 1997') yn darparu i'r Prif Weinidog benodi Prif Gomisiynydd, i gyflawni nifer o gyfrifoldebau statudol o dan Ran III o'r Ddeddf. Estynnwyd y rhain yn 2000 i gynnwys goruchwylio Rhannau II a III Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol 2000, ac eithrio pan maent yn ymwneud â chlustfeinio ar gyfathrebiadau a'r Gwasanaethau Cudd-ymchwil. Mae hefyd yn gyfrifol am oruchwylio Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol (Yr Alban) 2000. Nid yw Rhan III o RIPA mewn grym eto.

Bydd y Prif Gomisiynydd Ar-wylio (CSC) yn gyfrifol am:

  • sefydlu'r trefniadau goruchwylio
  • ystyried apeliadau yn erbyn penderfyniadau Comisiynwyr
  • adrodd i'r Prif Weinidog a Gweinidogion yr Alban ar y materion y mae'n ymwneud â hwy.

Mae'n ofynnol i'r CSC ystyried a phenderfynu ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau Comisiynwyr gan swyddogion awdurdodi.

Caniateir i swyddogion awdurdodi apelio o fewn cyfnod penodedig o saith niwrnod. Bydd yr CSC yn ystyried a yw'r penderfyniadau cyntaf yn rhesymol ac, unwaith y penderfynir yr apêl, bydd yn rhoi gwybod i'r swyddog awdurdodi am y penderfyniad a'r Comisiynydd yr apeliwyd yn erbyn ei wrthodiad neu ddyfarniad neu benderfyniad.

Pan gadarnheir apêl gan swyddog comisiynu, bydd y CSC, mewn achosion priodol, yn gorchymyn i'r awdurdodiad aros mewn grym am gyfnod penodol ac yn dileu unrhyw orchymyn i ddistrywio cofnodion.

Nid ellir apelio yn erbyn penderfyniadau'r CSC ac ni fyddant yn agored i'w cwestiynu mewn llys.

Pan fo Rhan III mewn grym, rhaid cyflwyno hysbysiadau i'r Prif Gomisiynydd, am awdurdodiadau'r heddlu a'r tollau o dan adran 51 o RIPA, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu allwedd.

 

  Map gwefan | Cymorth technegol | Telerau a amodau

 

© 2009 Comisiynwyr Ar-wylio