|
|
Beth sy'n rhaid ei wneud
- Deall y ddeddfwriaeth. Mae Deddf Heddlu 1997 Rhan III a Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol (RIPA) 2000 a Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol (Yr Alban) (RIP(S)A) 2000 yn berthnasol i bob asiantaeth sy'n gorfodi'r gyfraith. Dim ond ar-wylio yn ôl cyfarwyddyd [adran 28 o RIPA] a/neu ffynonellau cudd-ymchwil dynol [adran 29] fydd yn berthnasol i awdurdodau eraill. (Gweler Atodlen 1 RIPA ac adran 8(3) o RIP(S)A).
- Defnyddio'r codau ymarfer.
- Adolygu gweithgareddau i weld beth allai fod o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth a'r codau.
- Datblygu polisi ar ddefnyddio pwerau ar-wylio.
- Nodi'r unigolion sydd i awdurdodi'r defnydd o'r pwerau hyn.
- Sefydlu'r trefniadau ar gyfer gwneud penderfyniadau.
- Gwneud yn siwr fod y ffurflenni a ddefnyddir yn adlewyrchu gofynion y ddeddfwriaeth.
- Sicrhau fod y bobl hynny sy'n llenwi'r ffurflenni yn deal yr hanfodion ac yn arbennig ystyr angen a chymesuroldeb.
- Darparu lefelau hyfforddiant addas ar gyfer anghenion defnyddwyr.
|
|