Pwyntiau allweddol
Ymyrraeth gyfochrog: deunydd cyfrinachol
Rhaid i swyddogion awdurdodi roi sylw arbennig i beryglon ymyrraeth gyfochrog neu gael deunydd cyfrinachol er sichrau y cedwir cymesuroldeb ac y caiff y cynnyrch ei warchod.
Adolygiadau, Adnewyddiadau a Diddymiadau
Dylai'r prosesau fod yn syml fel bod yr egwyddorion pwysig hyn yn Neddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol (RIPA)/Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol (Yr Alban) (RIP(S)A) yn hawdd eu cyflawni.
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
Nid oes gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig y trosglwyddwyd stoc eiddo iddynt gan awdurdodau lleol bwerau RIPA.
Swyddogion Awdurdodi
- Offeryn Statudol 2000 Rhif 2417 Mae hwn yn rhoi'r hawl i 'Brif Swyddog Cynorthwyol' sy'n gyfrifol am reoli 'ymchwiliad' awdurdodi defnyddio pwerau ar-wylio yn ôl cyfarwyddyd neu Ffynonellau Cudd-ymchwil Dynol (CHIS). Os dehonglir bod y term olaf yn cyfeirio at berson heblaw y Prif Swyddog Cynorthwyol, rhaid iddo ddynodi ar unrhyw olwg pwy yw'r person uwch sy'n ymwneud â rheoli ymchwiliad, gan wahaniaethu rhwng hynny a chynnal ymchwiliad. Mae'n arfer da dynodi pob swyddog awdurdodi yn ôl enw.
- Offeryn Statudol yr Alban 2000 Rhif 343 Mae hwn yn pennu 'Pennaeth Gwasanaeth Cynorthwyol: Rheolwr Ymchwilio' ac yn codi mater tebyg.
Angen
Y cwbl a geir ar rai ffurflenni a ddefnyddir i awdurdodi ar-wylio yn ôl cyfarwyddyd neu CHIS, yw rhestru'r rhesymau deddfwriaethol, ar ffurf blychau ticio. Mae hyn yn disgrifio 'cyfreithlondeb' heb roi unrhyw gyfiawnhad dros y gweithredu penodol a awdurdodwyd. Mae hefyd yn bwysig ystyried a ddylid ceisio'r wybodaeth y mae ei hangen trwy ddulliau eraill.
Cymesuroldeb
Mae'r prawf cymesuroldeb yn ymdrin â'r cwestiwn a yw'r gweithredu a awdurdodwyd yn gymesur â'r hyn y ceisir ei gyflawni.
Cyfnodau dilys
Mae awdurdodiadau ar gyfer ar-wylio yn ôl cyfarwyddyd yn para am dri mis, oni bai eu bod yn cael eu diddymu, a'r rhai ar gyfer CHIS am 12 mis. Rhaid adolygu pob awdurdodiad yn rheolaidd a'u diddymu cyn gynted ag y daw'r angen amdanynt i ben.
Gweithgaredd a awdurdodwyd
Mae'n bwysig nodi'r gweithgaredd sy'n cael ei awdurdodi.
Aelodaeth o'r Un Sefydliad
Er nad oes dim sy'n cyfateb i adran 33(1) o RIPA ar gyfer awdurdodi cyhoeddus ac eithrio asiantaethau gorfodi'r gyfraith, mae'n arfer da mynnu fod yr ymgeisydd yn aelod o'r un awdurdod â'r swyddog awdurdodi.
|