Cyngor
Mae'r enghreifftiau o gyngor ac arfer da sy'n dilyn yn cael eu dyfynnu fel esiamplau'n unig: ni ddylid byth eu mabwysiadu'n ddigwestiwn.
Cydlynwyr Awdurdodau Lleol y Gwasanaethau Rheoleiddio
Ym myd llywodraeth leol mae Cydlynwyr Awdurdodau Lleol y Gwasanaethau Rheoleiddio (- the Local Authorities Coordinators of Regulatory Services- LACORS) LACOTS gynt (http://www.lacors.gov.uk) wedi eu paratoi i drefnu hyfforddiant a chynnig cyngor ar gwestiynau a ofynnir yn aml.
Gwasanaeth Safonau Masnach yng Ngogledd Swydd Efrog
Deallwn fod y Gwasanaeth Safonau Masnach yng Ngogledd Swyddog Efrog (01609 766421) gyda chefnogaeth gan LACORS wedi bod yn datblygu dull gweithredu TG sy'n cynorthwyo'r ymgeisydd a'r swyddog awdurdodi i nodi'r prif faterion.
Maent yn barod i ddarparu hwn ar gyfer eraill am bris ac i barhau i'w adolygu yn ôl yr angen.
Cymdeithas yr Ysgrifenyddion a Chyfreithiwyr Sirol
Mae'r Ysgrifenyddion a Chyfreithwyr Sirol (http://www.acses.org.uk/index.htm) hefyd yn fodlon gwneud eu rhan i gynnal yr awdurodau lleol sy'n cyflogi eu haelodau. Yn ogystal â gwefan, mae ganddynt rwydwaith o ganghennau sy'n cynnwys pob maes ble bydd aelodau'n cyfarfod i drafod profiadau a gwybodaeth.
Ar gyfer y GIG, mae Gwasanaeth Atal Twyll y GIG yn egluro'r ddeddfwriaeth ac yn trefnu hyfforddiant (Cysylltwch â Swyddfa Weithredol yr NHS: 0207 972 2505 neu Freedom.MacKay@doh.gov.uk)
Maent wedi cynhyrchu nodiadau'n egluro'r gyfraith, Codau Ymarfer, ffurflenni a gweithdrefnau wrth ddelio gyda thwyll, llygredd a throseddau eraill.
|