Comisiynwyr Ar-wylio Skip site navigation

 | 

 | 

 | 

Cyngor a Chyfarwyddyd

 | 

 | 

 | 

English | Cymraeg

 
Current page:


Prif agweddau ar y gyfraith

 
Cyngor a  Chyfarwyddyd - Prif agweddau ar y gyfraith

Mae'r hyn sy'n dilyn yn cael ei gynnig mewn ffurf gryno yn bennaf fel cymorth i rai sydd am ddeall rhannau allweddol o'r gyfraith yn gyflym. Nid yw'n esgusodi'r darllenydd sydd am gymhwyso'r gyfraith rhag cyfeirio at y deddfau i gael yr holl fanylion angenrheidiol.

Deddf yr Heddlu Rhan III

Ymyrryd ag eiddo (P.I.)

  • mae ar gael i'r heddlu'n unig ynghyd ag asiantaethau eraill sy'n gorfodi'r gyfraith
  • nid yw unrhyw fynediad i eiddo heb awdurdod nag ymyrraeth ag eiddo (neu delegraffi diwifr) yn anghyfreithlon
  • er mwyn i awdurdodiad fod yn ddilys, rhaid i swyddog sy'n ei roi gredu ei fod yn angenrheidiol pan roddir ef i atal neu ddatrys trosedd ddifrifol a bod y weithred yn gymesur â'r hyn y ceisir ei gyflawni
  • rhaid i'r awdurdodiad gael ei roi gan rengoedd dynodedig
  • bydd angen cymeradwyaeth Comisiynydd ymlaen llaw ar gyfer rhai gweithrediadau sensitif (ac eithrio mewn achosion brys) cyn y deuant i rym, hy, y rhai hynny sy'n ymwneud ag eiddo a ddefnyddir fel annedd, ystafell mewn gwesty neu swyddfa neu sy'n debygol o ddatgelu gwybodaeth sy'n ddarostyngedig i fraint gyfreithiol neu ble mae deunydd cyfrinachol neu newyddiadurol yn debygol o gael ei ddatgelu
  • ar gyfer gweithrediadau eraill, rhaid i'r swyddog awdurdodi hysbysu Comisiynydd wrth roi, adnewyddu neu ddiddymu awdurdodiad
  • bydd yr awdurdodiad ar gyfer tri mis fel arfer a gellir ei adnewyddu
  • os rhoddir awdurdodiad ar lafar, neu gan rywun ac eithrio swyddog awdurdodi cydnabyddedig, bydd yn para am 72 awr fel arfer a bydd angen ei reoleiddio os yw i ymestyn y tu hwnt i hyn.

Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol (RIPA) 2000 /Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol (Yr Alban) (RIP(S)A) 2000

Ar-wylio ymwthiol (I.S.)

  • mae ar gael i'r heddlu'n unig ynghyd ag asiantaethau eraill sy'n gorfodi'r gyfraith
  • mae'n gudd
  • mae'n ymwneud ag eiddo preswyl a cherbydau preifat
  • mae unigolyn yn bresennol yn yr eiddo neu yn y cerbyd; neu defnyddir dyfais ar-wylio
  • mae'r awdurdodiad yn cael ei roi gan Brif Swyddog, neu gyfwerth, a rhaid iddo fod yn fodlon bod hyn er mwn atal trosedd ddifirfol neu er budd diogelwch gwladol neu les economaidd y DU
  • bydd angen cymeradwyaeth Comisiynydd ymlaen llaw (ac eithrio mewn achosion brys) cyn dod i rym,
  • bydd yr awdurdodiad ar gyfer tri mis fel arfer a gellir ei adnewyddu
  • os rhoddir awdurdodiad ar lafar, neu gan rywun ac eithrio swyddog awdurdodi cydnabyddedig, bydd yn para am 72 awr fel arfer a bydd angen ei reoleiddio os yw i ymestyn y tu hwnt i hyn.

Ar-wylio yn ôl Cyfarwyddyd a Ffynonellau Cudd-ymchwil Dynol (CHIS)
Rhestrir yr awdurdodau cyhoeddus hynny sydd â'r hawl i awdurdodi yn Atodlen 1 o Ddeddf 2000 ac adran 8(3) o RIP(S)A. Mae'n llawer ehangach na'r heddlu ac asiantaethau gorfodi eraill.

Ar-wylio yn ôl Cyfarwyddyd

  • mae'n gudd
  • nid yw'n ymwthiol
  • ymgymerir â'r ar-wylio i bwrpas ymchwiliad neu weithrediad penodol mewn dull sy'n debygol o roi gwybodaeth breifat am berson (mewn modd ac eithrio ymateb uniongyrchol i ddigwyddiadau).

CHIS

  • mae person yn CHIS os yw'n sefydlu neu'n cynnal perthynas bersonol neu berthynas arall i'r pwrpas cudd o fanteisio ar y defnydd cudd a wneir o'r berthynas i gael gwybodaeth
  • rhaid i'r swyddog awdurdodi fod yn fodlon fod yr ymddygiad/defnydd yn gymesur â'r hyn y ceisir ei gyflawni a bod trefniadau mewn llaw i sichrau lefelau rheoli a goruchwylio; bod y cofnodion yn cynnwys manylion statudol ac nad ydynt at gael ond ar sail angen gwybod

Bydd hawl gan Uwcharolygydd i awdurdodi ar-wylio yn ôl Cyfarwyddyd a CHIS neu, mewn cyrff eraill, fel yr amlinellir yn SI 2000 Rhif. 2417 ac SSI 2000 Rhif. 343.

  • rhaid i'r swyddog awdurdodi gredu ei fod trwy ei gynnal yn gymesur â'r hyn y ceisir ei gyflawni ac yn angenrheidiol i atal trosedd neu anhrefn, gwarchod iechyd y cyhoedd, casglu neu asesu unrhyw dreth, neu i bwrpasau penodedig eraill.
  • rhaid i awdurdodau cyhoeddus gadw cofnod o bob awdurdodiad o'r fath a byddant yn ddarostyngedig i'w hadolygu gan Gomisiynwyr/ Comisiynwyr Cynorthwyol ac arolygwyr OSC.
 

  Map gwefan | Cymorth technegol | Telerau a amodau

 

© 2002 Comisiynwyr Ar-wylio