Comisiynwyr Ar-wylio Skip site navigation

 | 

 | 

 | 

Cyngor a Chyfarwyddyd

 | 

 | 

 | 

English | Cymraeg

 
Current page:


Diffiniadau termau

 
Cyngor a  Chyfarwyddyd - Diffiniadau termau

Trosedd ddifrifol
Adran 93 (4) Deddf yr Heddlu:
Yn cynnwys defnyddio trais, yn arwain at ennill ariannol sylweddol neu'n cael ei chyflawni gan nifer fawr o bobl ar drywydd pwrpas cyffredin; neu bydd y drosedd yn un y gallai person 21 oed neu hyn heb unrhyw gollfarnau blaenorol yn ei erbyn ddisgwyl yn rhesymol gael dedfryd o dair blynedd neu ragor yn y carchar am ei chyflawni.

Gwybodaeth bersonol gyfrinachol
Adran 99(1) o Ddeddf yr Heddlu:
Gwybodaeth bersonol y mae person wedi ei chael neu wedi ei chreu yng nghwrs unrhyw fasnach, busnes, proffesiwn neu alwedigaeth arall, ac y mae'n ei chadw'n gyfrinachol; a chyfathrebiadau sy'n arwain at gael neu greu gwybodaeth bersonol, a'i chadw'n gyfrinachol.

Gwybodaeth bersonol
Adran 99(2) o Ddeddf Yr Heddlu:
Gwybodaeth am unigolyn (byw neu farw) y gellir ei adnabod oddi wrthi, ac sy'n ymwneud â'i iechyd corfforol neu feddyliol neu gwnsela neu gymorth ysbrydol a roddid iddo neu oedd i gael ei roi iddo.

Ar-wylio cudd
Adran 26(9)(a) o'r Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol (RIPA):
Os, ac os yn unig, y caiff ei wneud mewn modd a fwriadwyd er sicrhau nad yw'r personau sy'n destun yr ar-wylio yn ymwybodol ei fod yn digwydd.

Ar-wylio
Adran 48(2) o RIPA:

  • monitro, arsylwi, gwrando ar bersonau, eu symudiadau, sgyrsiau, gweithgareddau neu gyfathrebiadau eraill
  • cofnodi unrhyw beth a gafodd ei fonitro, neu yr arsylwyd arno neu y gwrandawyd arno yn ystod cwrs yr ar-wylio
  • ar-wylio, trwy neu gyda, chymorth dyfais ar-wylio.

Mae ar-wylio yn gallu bod

  • yn ôl cyfarwyddyd
  • yn ymwthiol.

Ar-wylio yn ôl cyfarwyddyd
Adran 26(2) o RIPA:
CCudd, ond nid ymwthiol, gwneir hyn

  • ar gyfer ymchwiliad neu weithrediad penodol
  • mewn modd sy'n debygol o roi gwybodaeth breifat am unigolyn (pa un a yw'r person hwnnw wedi ei dargedu'n benodol i bwrpasau ymchwiliad ai peidio); ac
  • nid fel ymateb uniongyrchol i ddigwyddiadau a fyddai fel arall yn gwneud ceisio awdurdodiad o dan y Ddeddf yn afresymol ee gweld rhywbeth amheus a pharhau i gadw golwg arno.

Ymwthiol
Adran 26(3) o RIPA:
Dim ond os yw'n gudd ac

  • yn cael ei wneud mewn perthynas ag unrhyw beth sy'n digwydd ar eiddo preswyl neu mewn cerbyd preifat, ac
  • yn ymwneud â phresenoleb unigolyn yn yr adeilad neu'r cerbyd neu fod dyfais ar-wylio'n gwneud y gwaith.

Gwybodaeth breifat
Adran 26(10) o RIPA:
Mewn perthynas â pherson, mae'n cynnwys unrhyw wybodaeth am ei fywyd preifat neu deuluol.

Ffynonellau Cudd-ymchwil Dynol (CHIS)
Adran 26(8)(a)-(c) o RIPA:Person sy'n sefydlu neu'n cynnal perthynas bersonol neu berthynas arall gyda pherson i'r pwrpas cudd o hwyluso gwneud unrhyw beth sydd

  • yn defnyddio perthynas felly yn gudd i gael gwybodaeth neu roi mynediad i wybodaeth i berson arall; neu
  • yn datgelu'n gudd wybodaeth a gafwyd trwy ddefnyddio perthynas o'r fath, neu o ganlyniad i fodolaeth perthynas o'r fath.

Ymddygiad a defnydd o CHIS
Adran 26(7)(a)(b) o RIPA:

  • Ymddygiad
    Sefydlu neu gynnal perthynas bersonol neu berthynas arall gyda pherson i'r pwrpas cudd (neu fel eilbeth) o gael gwybodaeth a'i phasio ymlaen.
  • Defnydd
    Gweithredoedd yn cymell, yn gofyn neu'n cynorthwyo person i weithredu fel CHIS.
 

  Map gwefan | Cymorth technegol | Telerau a amodau

 

© 2002 Comisiynwyr Ar-wylio