Ymyrryd ag eiddo
Yn rhinwedd Deddf yr Heddlu, nid yw unrhyw fynediad neu ymyrraeth awdurdodedig yn anghyfreithlon. Rhaid i'r swyddog awdurdodi gredu fod y weithred a fwriedir yn anghenrheidiol i atal neu ddatrys trosedd ddifrifol, a bod y weithred a awdurdodir yn gymesur â'r hyn y mae'n ceisio'i gyflawni.
Rhaid hysbysu Comisiynydd am awdurdodiadau gan gynnwys penderfyniadau i adnewyddu neu ddiddymu.
Mewn amgylchiadau sensitif rhaid cael cymeradwyaeth Comisiynydd ymlaen llaw cyn y daw awdurdodiad i rym. Mae hyn yn digwydd pan fo:
- yr eiddo yn annedd, ystafell mewn gwesty neu swyddfa
- yn debygol y ceir gwybodaeth sy'n ddarostyngedig i fraint gyfreithiol
- yn debygol y ceir gwybodaeth bersonol neu newyddiadurol gyfrinachol.
Ceir rhagor o wybodaeth am ymyrryd ag eiddo yn adran Comisiynwyr Ar-wylio y wefan hon.
|