Sefydliad a chyfrifoldebau
Tribiwnlys, corff cyhoeddus An-Adrannol a noddir gan y Swyddfa Gartref yw'r OSC a sefydlwyd yn 1999, o dan Ran III o Ddeddf Heddlu 1997.
Cylch gorchwyl y Comisiynwyr yw adolygu awdurdodiadau o dan y Ddeddf gan Brif Swyddogion yr Heddlu, y Gwasanaeth Cudd-ymchwil Troseddol Cenedlaethol, yr Heddlu Troseddol Cenedlaethol a Thollau EM, am weithrediadau'n cynnwys mynediad i, neu ymyrryd ag, eiddo neu delegraffi ddiwifr, heb ganiatâd y perchennog.
Yn 2000 estynnwyd cyfrifoldebau'r Prif Gomisiynydd i gynnwys cadw dan arolwg (ac eithrio mewn perthynas â thorri ar draws cyfathrebiadau a'r gwasanaethau cudd-ymchwil) y modd yr arferir ac y perfformir y pwerau a'r dyletswyddau a gyflwynwyd neu a orfodwyd trwy neu o dan Ran II (ar-wylio cudd) a Rhan III (seiffro) o Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol 2000 (RIPA) a'r ddeddf sy'n cyfateb iddi yn yr Alban RIP(S)A. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ymdrin â mater ymyrryd â hawl person i breifatrwydd.
Ymdrinnir ag amodau penodiadau'r Comisiynwyr a'r Comisiynwyr Cynorthwyol yn adran 91 o Ddeddf yr Heddlu fel y mae wedi ei diwygio, a chan Adran 63 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol 2000 ac Adrannau 2 a 3 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol (Yr Alban) 2000.
Gallwch weld testun cyflawn y dogfennau hyn a dogfennau cyfreithiol eraill o adran Cyngor a Chyfarwyddyd y wefan hon.
|