Comisiynwyr Ar-wylio Skip site navigation

 | 

Amdanom ni

 | 

 | 

 | 

 | 

 

English | Cymraeg

 
Current page:


Trosolwg


Cyflwyniad
Sefydliad a chyfrifoldebau
Ymyrryd ag eiddo
Gweithgareddau cudd
Trefniadau busnes OSC

 
Amdanom ni - Trosolwg

Gweithgareddau cudd

Mae Rhan II o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol (RIPA) 2000 a RIP(S)A wedi gosod ar-wylio cudd ar sail statudol gan alluogi'r awdurdodau cyhoeddus a nodir yn y ddeddfwriaeth i gyflawni gweithrediadau o'r fath heb fynd yn erbyn hawliau dynol.

Maent yn nodi tri chategori o weithgaredd cudd:

1 Ar-wylio Ymwthiol
Mae hyn yn gudd ac fe'i cyflawnir mewn perthynas ag unrhyw beth sy'n digwydd ar unrhyw eiddo preswyl neu yn unrhyw gerbyd preifat. Bydd person yn yr adeilad neu yn y cerbyd, neu bydd dyfais ar-wylio yn gwneud y gwaith. Ac eithrio mewn achosion o argyfwng, bydd angen hysbysu'r swyddog awdurdodi o gymeradwyaeth y Comisiynydd cyn y gall fod yn weithredol. Mae'r pwer ar gael i'r un asiantaethau gorfodi'r gyfraith ag o dan Ddeddf Heddlu 1997.

2 Ar-wylio yn ôl Cyfarwyddyd
Mae hyn yn gudd ond nid yn ymwthiol (ac nid yw'n ymateb uniongyrchol i ddigwyddiadau) ond caiff ei wneud ar gyfer ymchwiliad neu weithrediad penodol mewn dull sy'n debygol o gael gwybodaeth breifat am berson. Rhaid iddo fod yn angenrheidiol ac yn gymesur â'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni a gellir ei ddefnyddio gan yr amrywiaeth eang o awdurdodau a nodir yn y ddeddfwriaeth.

3 Ffynonellau Cudd-ymchwil Dynol (CHIS)
Defnyddio rhywun neu ymddygiad rhywun sy'n sefydlu neu'n cynnal perthynas bersonol neu berthynas arall gyda pherson i'r pwrpas cudd o gael gwybodaeth. Rhaid i'r swyddog awdurdodi fod yn fodlon fod yr awdurdodiad yn angenrheidiol, fod yr ymddygiad a awdurdodir yn gymesur â'r hyn y ceisir ei gyflawni a bod trefniadau mewn grym i reoli a chadw rheolaeth ar yr unigolyn yn gyffredinol. Caniateir i'r amrywiaeth eang o awdurdodau a nodir yn y ddeddfwriaeth ddefnyddio CHIS.

Nid oes raid hysbysu'r Comisiynwyr am yr awdurdodiadau am Ar-wylio yn ôl Cyfarwyddyd a CHIS, ond rhaid iddynt fod ar gael i'w hadolygu pan fydd Comisiynwyr, Comisiynwyr Cynorthwyol ac Arolygwyr yn ymweld â'r amryfal awdurodau.

Seiffro
Mae Rhan III o RIPA yn ymdrin â seiffro ond nid yw mewn grym ar hyn o bryd.

Ceir mwy am y ddeddfwriaeth a'r Codau Ymddygiad yn yr adrannau hyn o wefan y Swyddfa Gartref:
http://www.homeoffice.gov.uk/ripa/code_of_practice/covert_human_intelligence.htm
http://www.homeoffice.gov.uk/ripa/code_of_practice/covert_surveillance.htm

 

  Map gwefan | Cymorth technegol | Telerau a amodau

 

© 2009 Comisiynwyr Ar-wylio